The Wales Media Literacy Network
Why and when was the Wales Media Literacy Network established?
Ofcom held a public meeting in October 2006 and in response to demand from broadcasters and learning providers at that meeting, decided to establish the Wales Media Literacy Network. The Network (which was officially launched in March 2007) was created primarily to provide a central point of coordination for media literacy activity in Wales and to allow stakeholders the opportunity to share information. NIACE Dysgu Cymru administers the Network.
Who makes up the Wales Media Literacy Network?
There are many organisations that have a key role to play in the promotion of media literacy skills, knowledge and understanding – amongst both adults and children. These include content producers, broadcasters, platform and network providers, learning providers, academics, Government, parents, the voluntary sector and others.
Membership of the Network is free and any interested parties from the above groups are encouraged to sign up. This can be done by e-mailing karen@walesmedialiteracy.org.uk
What does the Wales Media Literacy Network do?
Ultimately the Network’s goal is to increase levels of media literacy in Wales – particularly amongst vulnerable and disadvantaged groups. However in order to achieve this people have to
a) realise that they have limited knowledge in relation to media literacy in the first place
b) recognise the benefits of becoming more media literate
It is the collective responsibility of those organisations signed up to the Network to encourage a media literate society, and it is important that the Network acts as an umbrella organisation to try to facilitate this. The Network therefore aims to:
- Bring together stakeholders from across Wales on a regular basis to share good practice, information, ideas and work in partnership on all matters relating to media literacy.
- Coordinate events aimed at bringing about a better public understanding of media literacy and generally raise the profile of its benefits.
- Identify the current issues relating to media literacy and respond to Government (and other) consultations where they have a bearing on media literacy.
- Provide a ‘match-making’ service between learners, learning providers and media professionals
- Provide an online network for media literacy issues; publish details of events and Network meetings
- Collate and distribute information
- In the long term the Network will establish a Wales Media Literacy Strategy to promote a clear vision for the way forward for media literacy in Wales
Rhwydwaith Llythrennedd yn y Cyfryngau Cymru
Pryd sefydlwyd Rhwydwaith Llythrennedd yn y Cyfryngau Cymru, a pham?
Cynhaliodd Ofcom gyfarfod cyhoeddus ym mis Hydref 2006, ac mewn ymateb i’r galw gan ddarlledwyr a darparwyr dysgu yn y cyfarfod hwnnw, penderfynodd sefydlu Rhwydwaith Llythrennedd yn y Cyfryngau Cymru. Crëwyd y Rhwydwaith (a lansiwyd yn swyddogol ym mis Mawrth 2007) er mwyn darparu man canolog i gydlynu gweithgarwch ym maes llythrennedd yn y cyfryngau yng Nghymru, ac i roi cyfle i randdeiliaid rannu gwybodaeth. NIACE Dysgu Cymru sy’n gweinyddu’r Rhwydwaith.
Pwy sy’n rhan o Rwydwaith Llythrennedd yn y Cyfryngau Cymru?
Mae gan amryw o sefydliadau ran allweddol i’w chwarae wrth hyrwyddo gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau llythrennedd yn y cyfryngau, a hynny ymhlith oedolion a phlant. Mae’r rhain yn cynnwys cynhyrchwyr cynnwys, darlledwyr, darparwyr rhwydwaith a llwyfan, darparwyr dysgu, academyddion, y Llywodraeth, rhieni, y sector gwirfoddol ac eraill.
Gallwch ymaelodi â’r Rhwydwaith am ddim, ac anogir unrhyw bartïon o blith y grwpiau uchod a chanddynt ddiddordeb i ymaelodi. Gellir gwneud hyn drwy anfon e-bost at karen@walesmedialiteracy.org.uk mailto:Karen@walesmedialiteracy.org.uk
Beth yw gwaith Rhwydwaith Llythrennedd yn y Cyfryngau Cymru?
Yn y pen draw, nod y Rhwydwaith yw cynyddu lefelau llythrennedd yn y cyfryngau yng Nghymru, yn enwedig ymysg grwpiau sydd dan anfantais ac yn agored i niwed. Fodd bynnag, er mwyn cyflawni hyn, mae’n rhaid i bobl wneud y canlynol:
a) sylweddoli i ddechrau bod ganddynt wybodaeth cyfyngedig yng nghyd-destun llythrennedd y cyfryngau
b) cydnabod y manteision a geir yn sgil bod yn fwy llythrennog yng nghyd-destun llythrennedd y cyfryngau
Mae’n gydgyfrifoldeb ar y sefydliadau hynny sy’n ymaelodi â’r Rhwydwaith i hyrwyddo cymdeithas sy’n hyddysg mewn llythrennedd yn y cyfryngau, ac mae’n bwysig bod y Rhwydwaith yn gweithredu fel corff ymbarél er mwyn ceisio hwyluso hyn. Felly, mae’r Rhwydwaith yn ymdrechu i wneud y canlynol:
- Dwyn ynghyd randdeiliaid o bob cwr o Gymru yn rheolaidd er mwyn rhannu arferion da, gwybodaeth a syniadau a gweithio mewn partneriaeth ar bob mater yn ymwneud â llythrennedd yn y cyfryngau.
- Cydlynu digwyddiadau sy’n ceisio gwella dealltwriaeth y cyhoedd o lythrennedd yn y cyfryngau, a chodi proffil ei fanteision yn gyffredinol.
- Canfod y problemau cyfredol yng nghyswllt llythrennedd yn y cyfryngau ac ymateb i ymgynghoriadau’r Llywodraeth (ac eraill) sy’n berthnasol i lythrennedd yn y cyfryngau.
- Darparu gwasanaeth cyfatebu rhwng dysgwyr, darparwyr dysgu a gweithwyr proffesiynol yn y byd cyfryngau.
- Darparu rhwydwaith ar-lein ar gyfer materion yn ymwneud â llythrennedd yn y cyfryngau; cyhoeddi manylion digwyddiadau a chyfarfodydd Rhwydwaith.
- Casglu a dosbarthu gwybodaeth
- Yn y tymor hir, bydd y Rhwydwaith yn sefydlu Strategaeth Llythrennedd yn y Cyfryngau ar gyfer Cymru er mwyn hyrwyddo gweledigaeth glir ar gyfer y ffordd ymlaen i lythrennedd yn y cyfryngau yng Nghymru.





