Come and join the debate.
Once again, the Wales Media Literacy Network, in partnership with the RTS, will be holding an event at the National Eisteddfod in Bala, on Tuesday 4th August at 6.00pm at the S4C pavilion.
The Government’s recent Digital Britain report places great emphasis on ensuring that we’re all fully equipped to participate in a digital society. This means ensuring that we’re all aware of the different types of new media technologies and are confident in our ability to use them to our best advantage.
Digital inclusion is fundamentally about equality of opportunity – and the ability to communicate through whatever medium or language we choose.
The younger generation are already leading the way – the phenomenal growth in the use of social networking sites, and the vast amount of user generated content on the web and other platforms demonstrates their aptitude at grasping new ways of getting their voices heard. But are these same opportunities available for Welsh speakers?
There is certainly a hive of new media activity going on in Welsh – but does more need to be done to promote, co-ordinate, encourage and even train young people to embrace these new technologies through the medium of Welsh.
Please join us as we debate some of the issues above (and more) in the company of Leighton Andrews AM, Minister for Digital Inclusion and a panel of selected experts .
If you would like to attend the event please contact Karen Roberts by e-mail karen.roberts@ofcom.org.uk or on 029 2046 7202 as soon as possible before Friday 31st July, as we will be providing light refreshments at the end of the evening and will need to know for catering purposes.
Dewch i ymuno yn y drafodaeth.
Unwaith eto mae Rhwydwaith Llythrennedd yn y Cyfryngau Cymru, mewn partneriaeth gyda’r RTS, yn cynnal digwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala ar ddydd Mawrth 4 Awst am 6.00pm ym mhafiliwn S4C.
Mae adroddiad diweddar y Llywodraeth, Prydain Ddigidol, yn rhoi cryn bwyslais ar sicrhau ein bod i gyd wedi’n harfogi i gymryd rhan mewn cymdeithas ddigidol. Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr bod pob un ohonom yn ymwybodol o’r gwahanol fathau o dechnolegau cyfryngau newydd sydd yn bodoli a’n bod yn hyderus yn ein gallu i’w defnyddio er y budd gorau i ni.
Yn ei hanfod mae cynhwysiad digidol yn golygu cyfle cyfartal – a’r gallu i gyfathrebu trwy ba bynnag gyfrwng neu iaith a ddewiswn.
Mae’ genhedlaeth iau eisoes yn arwain y ffordd – mae’r twf rhyfeddol yn y defnydd o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol a’r swm helaeth o gynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr ar y we ac ar blatfformau eraill yn dangos eu gallu i fanteisio ar ddulliau newydd o fynegi barn. Ond ydy’r cyfleoedd hyn ar gael i siaradwyr Cymraeg?
Yn sicr mae cryn dipyn o weithgarwch cyfryngau newydd yn digwydd yn Gymraeg – ond a oes angen gwneud rhagor i hyrwyddo, cydlynu, annog a hyd yn oed hyfforddi pobl ifanc i ddefnyddio’r technolegau newydd hyn trwy gyfrwng y Gymraeg?
Ymunwch â ni wrth i ni drafod rhai o’r pynciau uchod (a rhagor) yng nghwmni Leighton Andrews AC, Gweinidog dros Gynhwysiad Digidol a phanel o arbenigwyr dethol.
Os hoffech ddod i’r digwyddiad cysylltwch â Karen Roberts trwy e-bost karen.roberts@ofcom.org.uk neu ar 029 2046 7202 cyn gynted â phosibl cyn dydd Gwener 31 Gorffennaf gan y byddwn yn darparu lluniaeth ysgafn ar ddiwedd y noson a bydd angen cael gwybod faint sydd yn dod i ddibenion arlwyo.
Filed under: General/Cyffredinol | Tagged: Digital Inclusion | Leave a Comment »