E-Democracy 2.0/ E-Ddemocratiaeth 2.0 2009

EnglishCymraeg


E- Democracy 2.0

Following the success of last year’s event, The Wales Media Literacy Network, in partnership with the National Assembly for Wales held its second conference on the use of new technologies in relation to civic participation on 20th March 2009 at the Vale of Glamorgan Country Hotel and Spa.

Keynote speaker Jesse Salazar, Commissioner for Latino Affairs for the Commonwealth of Pennsylvania gave an insightful presentation on the use of new technologies in the recent US primary and presidential election campaigns. His  illustrations of the revolutionary change in mindset that formed the basis of the Obama campaigns certainly provided some food for thought.
The National Assembly for Wales outlined the progress it has made in this area since the last conference -  with specific mention of its successful e-petitions initiative and future plans to open a centre which, amongst other things, will provide a hub for showcasing community media activity at the Pierhead building in Cardiff Bay. 

Ofcom’s Fiona Lennox gave a presentation on its research around citizen’s digital participation, published that day, which shows that the people of Wales are already embracing on-line activitiy – more on this 

The afternoon session provided community groups across Wales with an opportunity to showcase some examples of civic engagement via new media technologies, and included presentations from:

  • Communities@One
  • Merthyr Media Project
  • Calon FM
  • NIACE Dysgu Cymru
  • Mencap / National Assembly for Wales: E-petitions
  • Canllaw Online

Canllaw on-line also produced a clever digital story based on the day’s events:

 

E-Ddemocratiaeth 2.0


E-Ddemocratiaeth 2.0

Yn dilyn llwyddiant digwyddiad y llynedd cynhaliodd Rhwydwaith Llythrennedd yn y Cyfryngau Cymru, mewn partneriaeth gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru, ei ail gynhadledd ar y defnydd o dechnolegau newydd mewn perthynas â chyfranogiad dinasyddion ar 20 Mawrth 2009 yng Ngwesty Bro Morgannwg.

Cafwyd cyflwyniad treiddgar gan y siaradwr gwadd Jesse Salazar, Comisiynydd Materion Latino dros Gymanwlad Pennsylvania, ar y defnydd o dechnolegau newydd yn y rhagetholiad diweddar yn yr Unol Daleithiau ac yn ymgyrchoedd yr etholiad arlywyddol. Cafwyd digon i feddwl amdano yn ei ddisgrifiadau o’r newid chwyldroadol ym meddyliau pobl a ffurfiodd sail i ymgyrchoedd Obama.

Amlinellodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru y cynnydd y mae wedi’i wneud yn y maes hwn ers y gynhadledd ddiwethaf – gan sôn yn benodol am ei fenter e-ddeisebiadau llwyddiannus a chynlluniau yn y dyfodol i agor canolfan a fydd, ymysg pethau eraill, yn darparu canolbwynt ar gyfer arddangos gweithgarwch cyfryngau cymunedol yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd.

Cafwyd cyflwyniad gan Fiona Lennox o Ofcom ar ei ymchwil ar gyfranogiad digidol dinasyddion a gyhoeddwyd ar y diwrnod hwnnw, sydd yn dangos bod pobl yng Nghymru eisoes yn mynd ar-lein i gynnal eu gweithgarwch – rhagor am hyn .

Cafodd grwpiau cymunedol ar draws Cymru gyfle yn y prynhawn i arddangos rhai enghreifftiau o gyfranogiad dinesig trwy gyfrwng technolegau cyfryngau newydd, a chafwyd cyflwyniadau gan:

  • Communities@One
  • Prosiect Cyfryngau Merthyr
  • Calon FM
  • NIACE Dysgu Cymru
  • Mencap/Cynulliad Cenedlaethol Cymru: e-ddeisebiadau
  • Canllaw Ar-lein

Cynhyrchodd Canllaw Ar-lein stori ddigidol glyfar hefyd yn seiliedig ar ddigwyddiadau’r dydd:

One Response

Comments are closed.