E-Democracy/E-Ddemocratiaeth 2008

EnglishCymraeg


E- Democracy – Pierhead Building, National Assembly for Wales, 14th January 2008

The Network felt it was particularly important to engage with policy makers in the media literacy agenda. A major conference was held in the Pierhead Building, Cardiff Bay, on Monday January 14.  The conference encouraged debate about the development of an e-democracy strategy in the Welsh context and was an opportunity for stakeholders to voice their opinions and concerns for processes going forward. Speakers included e-democracy experts Anne Mackintosh and Andy Williamson; AMs Leighton Andrews, John Griffiths, Peter Black, Alun Cairns, Alun Davies and Bethan Jenkins; as well as representatives from Ofcom, NIACE Dysgu Cymru, the Welsh broadcast media, Communities @One and the Wales Council for Voluntary Organisations.

Pupils from Greenhill and Thomas Picton Schools in Pembrokeshire also attended the conference to record the day’s proceeding for their own internet radio station and they also produced a digital story which was subsequently published online. As a result, a video of the event was posted on the National Assembly for Wales’ website.


E-Ddemocratiaeth – Adeilad y Pierhead, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 14eg Ionawr 2008

Teimlai’r Rhwydwaith ei bod yn eithriadol bwysig ymgysylltu â llunwyr polisi ynghylch yr agenda llythrennedd yn y cyfryngau. Cynhaliwyd cynhadledd fawr yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, ddydd Llun Ionawr 14. Roedd y gynhadledd yn annog trafodaeth am ddatblygu strategaeth ddemocrataidd yng nghyd-destun Cymru, ac roedd yn gyfle i randdeiliaid leisio’u barn a’u pryderon ynghylch prosesau sy’n mynd rhagddynt. Ymhlith y siaradwyr roedd Anne Mackintosh ac Andy Williamson, arbenigwyr ar e-ddemocratiaeth; Leighton Andrews, John Griffiths, Petet Black, Alun Cairns, Alun Davies a Bethan Jenkins – oll yn Aelodau Cynulliad; yn ogystal â chynrychiolwyr o Ofcom, NIACE Dysgu Cymru, cyfryngau darlledu Cymru, Communities @One a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Roedd disgyblion o Ysgol Thomas Picton ac Ysgol Greenhill yn sir Benfro hefyd yn bresennol yn y gynhadledd i recordio gweithgareddau’r dydd ar gyfer yr orsaf radio sydd ganddynt ar y rhyngrwyd. Gwnaethant hefyd gyflwyno stori ddigidol a gafodd ei chyhoeddi ar-lein wedi hynny. Yn sgil hynny, rhoddwyd fideo o’r digwyddiad ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.